Darn ymddangosodd mewn rhifyn diweddar o’n cylchgrawn dwyieithog, Wycliffe News Cymru:
Mae’r Beibl yn ei gwneud yn glir bod Duw eisiau siarad gyda ni mewn ffordd ddealladwy, ac ystyr hynny yw siarad gyda phobl yn eu hiaith eu hun; does dim fath beth â iaith neu ieithwedd ‘sanctaidd’ neu sy’n fwy ‘teilwng’ ar gyfer yr efengyl. Ar ben hynny, wrth ddod i rannu’r efengyl gyda phobl, rhaid ystyried eu diwylliant yn ofalus, er mwyn sicrhau nad ydym yn codi rhwystrau i’r efengyl trwy ein gweithredoedd. Dyma rai o’r egwyddorion sylfaenol sydd y tu ôl i ffordd Wycliffe o weithio ar draws y byd.
Ond ydy hyn oll wir yn bwysig? Beth yw gwir effaith cael y Beibl yn y famiaith, neu ystyried y diwylliant yn ofalus wrth wneud gwaith Duw?
Gall Cristnogion ddim aeddfedu yn eu ffydd heb y Beibl mewn iaith maen nhw’n ei deall yn dda.

Mewn nifer o rannau o’r byd, mae’r Beibl hyd heddiw ar gael yn yr iaith fwyafrifol yn unig – iaith y wladwriaeth, neu iaith addysg. O ganlyniad, ychydig ohono bydd llawer o Gristnogion yn ei ddeall, ac o ganlyniad byddant yn llawer mwy tebygol o gael eu harwain ar gyfeiliorn.
Dyna sydd wedi digwydd ymhlith pobl y Nach* yn ne-ddwyrain Asia. Mae nifer da o Gristnogion ymhlith y 47,500 Nach, diolch i waith cenhadol yn y ganrif ddiwetha. Ond yn anffodus, mae’r efengyl wedi gwanychu yn eu plith – yn rhannol am mai ond yn yr iaith fwyafrifol mae’r Beibl ar gael. Er enghraifft, mewn rhai pentrefi mae llawer o bobl wedi rhoi’r gorau i weithio’n galed am eu bod yn disgwyl yr ail-ddyfodiad. Mewn ardaloedd eraill, mae llawer o Gristnogion mewn enw wedi troi yn ôl i’r grefydd draddodiadol, Bwdhaeth. Mae hyd yn oed to o fynachod bwdaidd ifainc wedi codi yn dwyn enwau fel ‘Elijah’, am eu bod wedi eu geni i rieni Cristnogol a drodd at Fwdhaeth.
Er mwyn tyfu fel Cristnogion, mae angen i bobl allu clywed neu ddarllen y Beibl mewn iaith maen nhw’n ei deall yn dda, ac mae’n rhaid i arweinwyr yr eglwys gymryd y dylanwadau ysbrydol o’u cwmpas (yn yr achos hwn, Bwdhaeth) i mewn i ystyriaeth.

All yr un eglwys bara yn hir (nac yn ffyddlon) heb y Beibl yn iaith y bobl.
Cyfieithodd cenhadon i Tseina ar ddechrau’r 20fed ganrif y Beibl cyfan i’r iaith Tsieneeg (sy’n iaith mwyafrif y boblogaeth, er nid pawb), a sicrhau ei fod yn cael ei argraffu ar raddfa fawr. Ym 1951, gorfododd y blaid gomiwnyddol yr holl genhadon o’r wlad, ond yn ystod yr 20 mlynedd nesa, tyfodd yr eglwys o ran maint gan 500%. Cynhaliwyd ffydd y Cristnogion hyn yn rhannol trwy gael y Beibl yn eu hiaith ac yn eu calonnau trwy ganol erledigaeth chwyrn.
Mae hanes yr eglwys yn rhoi sawl enghraifft o hyn yn digwydd, ac yr effaith torcalonnus pan nad yw’n digwydd. Gogledd Affrica oedd un o brif ganolfannau’r byd Cristnogol yn y canrifoedd cyntaf O.C. Defnyddiai’r arweinwyr eglwysig yr iaith Ladin, a chafodd y Beibl ddim ei gyfieithu i’r ieithoedd Pwneg a Berbereg, sef iaith bob dydd pawb ond y rhai mwyaf addysgedig. Pan gafodd y rhanbarth gyfan ei choncro gan fyddinoedd mwslemaidd yn ystod yr 8fed ganrif, diflannodd yr eglwys yn llwyr. Mewn gwrthgyferbyniad llwyr i hyn, fe oroesodd yr eglwys gyfagos yn yr Aifft (ac yn Ethiopia) hyd ein hoes ni am fod y Beibl eisoes ar gael yn ieithoedd y bobl yn y gwledydd hynny (sef Copteg ac Ethiopeg).

Nid mater eilradd o safbwynt yr efengyl felly yw sicrhau bod iaith a diwylliant pobl yn cael eu trin o ddifri. Os ydym am weld eglwysi cryf a Christnogion ledled y byd yn tyfu yn eu ffydd ac yn dod ag eraill i fywyd newydd yn Iesu Grist, bydd eisiau y Beibl arnyn nhw yn eu hieithoedd ei hun. Anodd anghytuno wrth edrych ar y darlun mawr mai cyfieithu’r Beibl i’r holl ieithoedd hynny sydd ei angen a heb ei gael eto yw un o’r agweddau pwysicaf ar genhadaeth yn ein byd ni heddiw, os ydym am weld twf eglwysig, a dygnedd Cristnogol yn wyneb erledigaeth.
Carwyn Graves
*Nid enw go iawn y bobl.
Os hoffech ddarllen rhagor o erthyglau am waith Wycliffe, ac yn enwedig felly ein gweithwyr o Gymru, cliciwch ar y ddolen isod:
Never miss a story
Get Bible translation updates straight to your inbox
For more information on our privacy policy, see Policy
Sign up to get our emails
Wycliffe Bible Translators
©2022 Wycliffe UK Ltd
A charity registered in England and Wales (251233) and in Scotland (SC039140). Company Number 819788.
Home | Vacancies | Privacy | Reporting concerns| Safeguarding
Our use of cookies
We use cookies to make our website work well for you. We'd also like to set optional cookies to help us improve your online experience. Find out more.
AcceptReject