Darn ymddangosodd mewn rhifyn diweddar o’n cylchgrawn dwyieithog, Wycliffe News Cymru:

Aeth cenhadon o Gymru i bob cwr o’r byd o gyfnod y Diwygiad Methodistaidd (o gylch 1750) ymlaen. Un o nodweddion mwyaf trawiadol y corff hwn o genhadon Cymraeg yw eu gweithgarwch i gyfieithu’r Beibl i’r famiaith yn y llefydd yr aethant iddynt. Mae llawer o’r straeon hynny wedi diflannu o’n cydwybod ond fe ddefnyddiodd yr Arglwydd yr ymdrechion hyn i ddwyn ffrwyth mewn sawl man ar draws y byd. Yn y rhifyn diwethaf o Wycliffe News Cymru cychwynon ni ar gyfres i gyflwyno rhai o’r cenhadon a’r ymdrechion hyn, ac i geisio dysgu oddi wrthynt.

Y Testament Newydd cyntaf yn Llydaweg, gan Le Gonidec gyda help cenhadon o Gymru

Yn ail felly, trown at Lydaw. Aeth sawl cenhadwr Cymraeg i Lydaw, gan gynnwys David Jones (1793 – 1825) a John Jenkins (1807 - 1872) a buont ill dau ynghlwm a gwaith cyfieithu a dosbarthu’r Beibl yn Llydaweg. Yr enwocaf o’r Cymry efengylaidd a fu ynghlwm a hybu cyfieithu’r Beibl i’r Llydaweg oedd Carnhuanawc neu Thomas Price (1787-1848) - ficer Eglwys Loegr yn Sir Frycheiniog.

David Jones

Roedd David Jones yn weinidog yn Abertawe pan ymwelodd â Llydaw am y tro cyntaf yn 1823. Yna, digwydd iddo gwrdd a Llydawr o’r enw ‘Le Gonidec’, a oedd eisoes wrthi yn cyfieithu’r Testament Newydd i’r Llydaweg. Wrth deithio’r wlad sylweddolodd cymaint oedd yr angen yno - roedd hanner miliwn o Lydawyr uniaith Lydaweg, mewn gwlad nad oedd wedi profi adfywiad fel yng Nghymru. Wedi ei gyffroi gan hyn, ac yn frwd i wneud gwahaniaeth, ysgrifennodd at Gymdeithas y Beibl ac at gyd-Gristnogion yn ol yn Abertawe. Llugoer oedd yr ymateb yn Llundain, ond o ganlyniad i ymgyrchu’r Cymry, daeth ymateb gadarnhaol wrth y Gymdeithas yn y pendraw, a galluogwyd i David Jones fod yn gymorth i Le Gonidec trwy rodd o £100 i’w gynnal. Erbyn Hydref 1825 roedd efengyl Mathew wedi ei gwblhau ond cyn diwedd y flwyddyn, roedd David Jones wedi marw.

Thomas Price

Erbyn hynny, roedd Thomas Price/ Carnhuanawc eisoes wedi ymddiddori yn y gwaith cyfieithu yn Llydaw, a chynigiodd ei wasanaethau i Le Gonidec. Roedd Carnhuanawc yn ffigwr diwylliannol blaenllaw yn ei ddydd, yn gyfaill i Theophilus Jones ac yn awdur ar swmp o gyfrol anferthol ar hanes Cymru a chanddo weledigaeth gyfoethog a chynhwysfawr o’r byd. A rhan greiddiol o’r weledigaeth honno oedd y Beibl. Yn ei eiriau huawdl ei hun - o araith Saesneg a draddododd -, dyma ei gymhelliant dros fod yn frwd o blaid cyfieithu’r Beibl:

Un o gapeli protestannaidd Llydaw cc 1900, a chanddo aelodaeth o rai cannoedd erbyn hynny

‘What has raised our nation from the ignorance of barbarism but the Bible? — What has given us our present exalted character among the enlightened nations of the world, but the practice of the Bible principles? [the work of Bible translation] is going forth with power, conquering, and to conquer. Already is it lifted up as a standard to the nations, and so firmly fixed, as with God's help, to bid defiance to the powers of darkness.’

Ym 1819 roedd eisioes wedi ysgrifennu at Gymdeithas y Beibl yn galw arnynt i gefnogi cyfieithiad i’r Llydaweg. Gresynai weld yn rhai rhannau o Gymru bod ‘the bulk of the people are deprived of the privilege of hearing the word of God in their native tongue’ ac roedd yn frwd i gywiro hyn yn Llydaw. Treuliodd y blynyddoedd nesaf yn codi arian ymhlith Cristnogion Cymru i gefnogi’r gwaith cyfieithu, ond yn fwy na hynny, gan ei fod wedi meistroli’r Llydaweg ei hun, bu’n gymorth pwysig i Le Gonidec wrth iddo fwrw ymlaen a chwblhau’r Testament Newydd ym 1827, ac yna cychwyn ar yr Hen Destament.

John Jenkins

Ond nid argraffwyd cyfieithiad Le Gonidec er yr holl waith, a hynny yn rhannol am ei fod wedi dewis geiriau hynafol, nad oedd trwch pobl Llydaw yn eu deall mwyach. Roedd angen gwell sylfaen ieithyddol i’r gwaith cyn iddo fod o ddefnydd. Trwy ras, ym 1834 cyrhaeddodd gweinidog gyda’r Bedyddwyr yng Nghymru Lydaw, a dysgu’r iaith mewn dim o dro. Sylweddolodd bod angen diwygio’n helaeth ar y Testament Newydd, a bwrw ati gyda chymorth Ricou, ‘hen ffermwr Llydawaidd, tlawd…’ Llwyddodd i gyhoeddi cyfieithiad newydd ym 1851, a dosbarthwyd 3000 o gopïau. Credai John Jenkins fod angen diwygio parhaus, a gosodwyd y seiliau ar gyfer diwygiadau pellach ac adargraffiadau dros y degawdau nesaf. Oherwydd hyn, roedd 15,000 o gopïau o’r Testament Newydd Llydaweg wedi eu dosbarthu yn Llydaw erbyn 1886.

Thomas Price, Carnhuanawc a oedd yn allweddol yn y gwaith o gyfieithu’r Beibl

Gwersi

Nid dilyn y milwyr a wnai’r cenhadon hyn. Doedd dim rheswm iddynt fod yno heblaw am gariad at bobl a diwylliant Llydaw, a’r awydd i sicrhau bod y bobl yn gallu clywed a deall yr efengyl yn eu hiaith eu hun. Roedd Llydaw yn dalcen fwy caled o beth ffordd na Madagascar, ond erbyn yr 1850au gwelwyd ffrwyth wrth i rai o werin y cefn gwlad ddod i ffydd. Adeiladwyd capeli ar wedd Gymreig, ond roeddent yn atgas gan y boblogaeth. Wrth newid arddull yr adeilad i ymdebygu fwy i eglwysi Catholig, cafwyd diddordeb, ac erbyn 1900 roedd pedair cynulleidfa iach yn Llydaw, yn addoli yn eu mamiaith. Mae’r wers, o ran parchu arferion pobl, yn amlwg.

Yn ailbeth, a llawn bwysiced, defnyddiodd yr Arglwydd nid yn unig y cenhadon a aeth i Lydaw ond hefyd yr holl gapeli a chymdeithasau cenhadol yng Nghymru a’u cefnogai. Roedd angen rhywun i’w hanfon, rhywun i’w cynnal yn ariannol, a rhywun i weddio dros y gwaith - heb bob un o’r rheiny, mae’n debyg y byddai’r stori wedi dod i ben gyda methiant Le Gonidec i gyhoeddi ei waith. Gall hynny fod yn anogaeth i ni wrth i ni gefnogi gwaith cyfieithu o Gymru yn ein hoes ni.

×

Never miss a story

Get Bible translation updates straight to your inbox

For more information on our privacy policy, see Policy