Darn ymddangosodd mewn rhifyn diweddar o’n cylchgrawn dwyieithog, Wycliffe News Cymru:

Aeth cenhadon o Gymru i bob cwr o’r byd o gyfnod y Diwygiad Methodistaidd (o gylch 1750) ymlaen. Un o nodweddion mwyaf trawiadol y corff hwn o genhadon Cymraeg yw eu gweithgarwch er mwyn cyfieithu’r Beibl i famiaith y lleoedd yr aethant iddynt. Mae llawer o’r straeon hynny wedi diflannu o’n cydwybod fel cenedl, ond fe ddefnyddiodd yr Arglwydd yr ymdrechion hyn i ddwyn ffrwyth mewn sawl man ledled y byd. Yn y rhifynnau diwethaf o Wycliffe News Cymru, fe ddechreuon ni ar gyfres i gyflwyno rhai o’r cenhadon a’r ymdrechion hyn, ac i geisio dysgu oddi wrthynt, gan edrych ar Fadagasgar, Llydaw, bryniau Casia a’r Tsalagi yn eu tro.

Un o’r cyfieithwyr Beibl yn ynysoedd y Môr Tawel heddiw

Yn y rhifyn hwn, mae’n bryd troi ein golygon at y Môr Tawel, ac yn benodol, at ynysoedd Tahiti. Mae cysylltiad Cristnogion Cymru â’r ynysoedd hyn yn deillio o waith John Davies a wnaed yno dros gyfnod o dros hanner canrif yn ystod y 19eg ganrif, a’i gyfraniad tuag at y gwaith o gyfieithu’r Beibl i’r Dahitïeg.

Ganwyd John ym 1772 ym mhlwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa yn Sir Drefaldwyn. Cafodd addysg Gristnogol yn un o ysgolion Madam Bevan, ac yna ymunodd ag eglwys Fethodistaidd Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Clywodd Thomas Charles (gweinidog dylanwadol o’r Bala) am dduwioldeb John, ac ym 1797, fe wahoddwyd John i fod yn athro yn ysgolion Sul yr ardal. Roedd hi’n amlwg fod Duw yn ei baratoi, oherwydd, rai blynyddoedd yn ddiweddarach, clywodd am yr angen am athrawon yn y genhadaeth yn Nhahiti. Gwirfoddolodd John, a hwyliodd e a’i wraig yno, gan gyrraedd ym 1801. Ni ddychwelodd i Gymru yn ystod gweddill ei oes.

Beibl cyntaf yr ynysoedd

Ymunodd John Davies ag ymdrechion Sais o’r enw Henry Nott er mwyn datblygu’r Dahitïeg yn iaith ysgrifenedig. Yn debyg i’r Gymraeg, crëwyd gwyddor seml ganddynt gyda 5 o lafariaid a 9 cytsain, a defnyddiwyd yr wyddor newydd hon i gyfieithu’r Beibl i’r iaith. Pryd gwnaethon nhw gyhoeddi yr Efengyl yn ôl Luc ym 1818, hwn oedd y tro cyntaf i ddarn o’r Beibl gael ei gyhoeddi yn yr un o ieithoedd ynysoedd y Môr Tawel (sef yr holl ardal rhwng Hawäi ac Awstralia!). Gwerthwyd yr efengyl hon am dri galwyn o olew cnau cocos yn Nhahiti. Roedd hyn yn arwyddocaol ar sawl lefel - nid lleiaf oherwydd bod ymdrechion y cenhadon Ewropeaidd ar yr ynysoedd hyd hynny wedi bod yn anffrwythlon. Yn ystod deuddeng mlynedd o bregethu, ni chafodd yr un person lleol ei fedyddio hyd hynny.

Eglwys leol ar ynys nepell o Tahiti

Roedd eu hymdrechion newydd i gyfieithu’r Beibl yn gwbl ddibynnol ar ddyn lleol o’r enw Tuahine. Bu’n gymorth sylweddol i’r cenhadon wrth iddyn nhw geisio cael gafael ar yr iaith, ac fe weithiodd ochr yn ochr â nhw am flynyddoedd lawer. Gyda chymorth Tuahine, gorffennodd John Davies a Henry Nott y Beibl cyfan ym mis Rhagfyr 1835, dros 30 o flynyddoedd ar ôl iddynt ddechrau’r gwaith. Pan gyrhaeddodd y llwyth cyntaf o Feiblau argraffedig yn barod i’w dosbarthu yn Nhahiti yn y pendraw ym 1840, roedd llu o bobl leol yn aros amdanynt yn y porthladd, yn awyddus i weld yr hyn a oedd yn y llyfr hwn.

Seiliau ysbrydol

Ochr yn ochr â’r gwaith ar y Beibl, cyhoeddodd John Davies eiriadur Saesneg a Thahitïeg, gwerslyfr i ddysgu Tahitïeg, a chyfieithiad o Daith y Pererin i’r iaith. Ysgrifennodd hefyd nifer o emynau Tahitïeg (roedd rhai ohonynt yn gyfieithiadau o emynau Cymraeg!) a bu’n pregethu’n rheolaidd ar yr ynys ac yn sefydlu ysgolion Cristnogol yno.

Yn ei grynswth, bu’r holl waith hwn o fudd i bobl Tahiti yn ogystal â holl bobloedd ynysoedd y Môr Tawel. Defnyddiwyd yr wyddor a’r Beibl Tahitïeg yn sail ar gyfer gwaith yn ieithoedd Samoa ac Ynysoedd Cook hefyd. Pan fu farw ym 1855, roedd eglwys efengylaidd lleol wedi ei sefydlu, ac erbyn diwedd y ganrif, roedd bywyd ysbrydol ffyniannus yn perthyn iddi.

Tahiti heddiw

Bedd John Davies ar Tahiti heddiw

Llewyrchodd y dystiolaeth trwy’r eglwys frodorol hon am flynyddoedd lawer, i’r fath raddau iddi anfon cenhadon at bobloedd a gwledydd eraill ledled y Môr Tawel. Arhosodd Tahiti yn rhan o’r Ymerodraeth Ffrengig ac mae’n rhan o Ffrainc hyd heddiw. O blith y 300,000 o bobl sy’n byw ar yr ynysoedd, mae oddeutu 70,000 ohonynt yn siarad yr iaith frodorol. Er bod hynny’n ostyngiad sylweddol, yn iaith leiafrifol, gellir ei chymharu ag ieithoedd lleiafrifol eraill Ffrainc o ran cryfder. Mae’r defnydd a wneir o’r iaith yn yr ysgolion - oherwydd datblygiad yr wyddor yn ystod y 19eg ganrif - ac yn yr eglwysi, o ganlyniad i gyfieithiad y Beibl - yn gyfrifol am hynny i raddau helaeth.

Mae gwaith yn parhau i sicrhau bod y Beibl ar gael yn holl ieithoedd ynysoedd y Môr Tawel, mewn ieithoedd sy’n perthyn yn agos i’r Dahitïeg. Mae gwaith cyfieithu yn mynd rhagddo mewn 16 o’r ieithoedd hyn, ac mae disgwyl i waith ddechrau yn y dyfodol mewn chwe iaith arall. Mae cyfran fwyfwy o’r gwaith hwn yn cael ei redeg a’i arwain gan Gristnogion lleol.

Gweddïwch:

  • Y bydd llawer o bobl yn Nhahiti yn edrych ar y Beibl o’r newydd, ac yn cael bywyd newydd drwy ddarllen gair Duw.
  • Am lwyddiant y gwaith cyfieithu yn yr holl ieithoedd yn y rhan honno o’r byd, ble mae’r Beibl yn dal heb fod ar gael
  • Tros bawb sy’n gweithio ar y cyfieithiadau hynny; am ddirnadaeth ac ysbrydoliaeth oddi wrth yr Ysbryd Glân wrth iddynt wneud eu gwaith.
×

Never miss a story

Get Bible translation updates straight to your inbox

For more information on our privacy policy, see Policy