Darn ymddangosodd mewn rhifyn diweddar o’n cylchgrawn dwyieithog, Wycliffe News Cymru:

Aeth cenhadon o Gymru i bob cwr o’r byd o gyfnod y Diwygiad Methodistaidd (o gylch 1750) ymlaen. Un o nodweddion mwyaf trawiadol y corff hwn o genhadon Cymraeg yw eu gweithgarwch i gyfieithu’r Beibl i’r famiaith yn y llefydd yr aethant iddynt. Mae llawer o’r straeon hynny wedi diflannu o’n cydwybod fel cenedl ond fe ddefnyddiodd yr Arglwydd yr ymdrechion hyn i ddwyn ffrwyth mewn sawl man ar draws y byd. Yn y rhifynnau diwethaf o Wycliffe News Cymru, cychwynnon ni ar gyfres i gyflwyno rhai o’r cenhadon a’r ymdrechion hyn, ac i geisio dysgu oddi wrthynt, gan edrych ar Fadagascar, Llydaw, Bryniau Casia, y Tsalagi a Thahiti yn eu tro. Yn yr olaf yn y gyfres, dyma dynnu rhai casgliadau o’r storïau amrywiol hyn.

Awydd i wasanaethu dramor

Hydref 1818 yw hi, ac mae David Jones, Thomas Bevan a’u gwragedd a’u plant newydd gyrraedd ynys Madagascar ar ôl mordaith hir. O fewn wythnosau, mae pob un ohonynt yn gwanychu yn yr hinsawdd anghyfarwydd, ac o un i’r llall, bu farw pob un o’r criw o falaria, ac eithrio David Jones yn unig. Ond yn lle hel ei bac yn ôl am Gymru, arhosodd. Dros y blynyddoedd nesa, bu’n pregethu’r efengyl ddwywaith pob dydd Sul, yn sefydlu ysgolion dyddiol ac ysgolion Sul, yn milwrio i ddod â chaethwasiaeth i ben, yn sefydlu orgraff safonol ar gyfer y Falagaseg ac erbyn 1831, cyfieithwyd a chyhoeddwyd y Testament Newydd yn yr iaith honno, a rhywfaint o’r Hen Destament hefyd. Bu farw o falaria ei hunan ym 1841.

David Jones yn rhoi gwers llythrennedd ym Madagascar yn yr 1830au

Mae storïau fel y rhain (adroddwyd y stori hon yn rhifyn Hydref 2019 y cylchgrawn hwn) yn syfrdanol, yn enwedig os ydym yn cymryd cenhadon oddi ar ryw bedestal ac yn cofio mai Cristnogion cyffredin ydynt. Ac efallai, felly, mai’r wers gyntaf i’w thynnu o’r holl hanesion hyn yw’r ffaith iddynt ddigwydd o gwbl. Hynny yw, menter sylweddol oedd galw a chefnogi Cymry tlawd i deithio am fisoedd ar draws y byd er mwyn ymsefydlu a gwasanaethu mewn diwylliant newydd. Yn achos nifer o’r cenhadon hyn, ni wnaethant ddychwelyd at dylwyth a chyfeillion yng Nghymru erioed, a hyn oll mewn oes cyn whatsapp, zoom a hyd yn oed system bost ddibynadwy.

Er mwyn eu comisiynu a’u hanfon allan, a’u cynnal mewn gweddi ac yn ariannol, roedd angen i’r eglwysi yng Nghymru ymateb mewn ffydd i alwad Duw. Yn achos cwestiynu gofalus eglwys Neuadd-Lwyd cyn i David Jones a Thomas Bevan fynd i Fadagascar, yn achos bryniau Casia ac ymrwymiad y Methodistiaid Calfinaidd i ledu’r efengyl yno, ac yn achos David Jones a Thomas Price a fu’n cefnogi’r gwaith o gyfieithu’r Beibl yn Llydaw, roedd ymroddiad ac awydd i wasanaethu cenhedloedd eraill â’r efengyl yn nodweddu Cristnogion Cymru.

Iaith a diwylliant

Yn ail, roedd agwedd wylaidd at ddiwylliant wedi ei chyplysu ag agwedd gadarnhaol tuag at ieithoedd brodorol yn perthyn i’r holl fentrau cenhadol ‘Cymreig’ yma. Ym mhob un achos, buddsoddwyd blynyddoedd o waith i’r fenter o gyfieithu’r Beibl i’r famiaith, a blaenoriaethwyd hynny fel sail ddigwestiwn i’r gwaith o efengylu a sefydlu eglwys frodorol. Oherwydd eu cefndir eu hunain yn Gymry Cymraeg, mae’n debyg ei bod yn haws i’r rhain ddeall yr egwyddor Feiblaidd yn Actau 2 a’r Pentecost, sef y dylai pobl gael clywed ‘cyhoeddi rhyfeddodau Duw yn ein hieithoedd ein hunain!’ (Actau 2:11)

Eglwys brotestannaidd yn Llydaw ddechrau’r 20fed ganrif

Ond bron cyn bwysiced oedd agwedd gadarnhaol y cenhadon hyn at ddiwylliannau’r bobl yr oedden nhw wedi dod i’w gwasanaethu. Mewn gwahanol ffyrdd, ac yn groes i ysbryd y cyfnod yn yr ymerodraeth Brydeinig, dewison nhw uniaethu â’r diwylliannau hyn. Roedd hyn yn wir wrth sefydlu cymdeithas genhadol frodorol ym Madagascar mor gynnar ag 1825, wrth fabwysiadu dulliau pensaerniol cynhenid i gapeli Protestannaidd Llydaw, ac yn amlycaf oll yn achos Evan Jones a ymfudodd er mwyn bod gyda’r Tsalagi ac a weithredodd i warchod eu buddiannau fel pobl yn erbyn brad lywodraeth yr Unol Daleithiau. Ceir cwestiynau cymhleth a phenderfyniadau anodd yma, ond hefyd, ceir adlewyrchiad clir o eiriau Paul, ‘Mi a’m gwneuthum fy hun yn was i bawb, fel yr enillwn fwy.’ (1 Corinthiaid 9:19)

Cyfieithwyr lleol

Er mai ar hanesion y cenhadon Cymreig mae’r gyfres hon wedi canolbwyntio, i raddau helaeth, mae hynny oherwydd diffyg gwybodaeth am eu cydweithwyr tramor. Mewn gwirionedd, roedd cyfraniad y rhain yn gwbl allweddol i dwf y gwaith. Stori cyfraniad Tuahine yw cyfieithu’r Beibl i’r Dahitieg, ac mae hyn lawn cymaint os nad yn fwy na John Davies. Felly hefyd Wasadi a Tastheghetehee yn achos y Tsalagi, Le Gonidec a Ricou yn achos y Llydaweg, ac yn y blaen. Nid y cenhadon yw’r arwyr yn y straeon hyn, ond Duw, sy’n defnyddio pobl o ddiwylliannau eraill ac yn codi arweinwyr o’r diwylliant ei hun er mwyn ei bwrpas o ledaenu’r efengyl.

Mewn sawl achos - fel ymhlith y Tsalagi ac ym Madagascar, aeth y cenhadon a’u cyd-weithwyr lleol ati i ennill ffafr yr awdurdodau lleol cynhenid. Dyma egwyddor hollbwysig, sy’n deillio o Rufeiniaid 13, ac sy’n cydnabod yr angen i hau had a gweithio ar gyfer cynhaeaf hirdymor, heb greu dibyniaeth ar weithwyr o dramor. Ochr yn ochr â hyn daeth ffocws ar lythrennedd ymhlith y werin bobl yn sail i bobl allu darllen y Beibl. Yn yr holl bethau, mae’r un egwyddorion yn greiddiol i waith Wycliffe ar draws y byd heddiw.

Ffrwyth hirdymor

Beibl modern yn yr iaith Falagaseg – sylfaen ffydd yn y wlad

Ac i gloi, gallwn gael ein hannog wrth edrych yn ôl ar yr hanesion hyn gyda phersbectif hirdymor nad yw’n bosib eto gyda chynifer o brosiectau Wycliffe. Gallwn weld bod y gwaith ar y pethau syflaenol - cyfieithu’r Beibl, buddsoddi mewn arweinyddiaeth leol, parchu’r diwylliant, perthynas â’r awdurdodau - wedi arwain at gynhaeaf dros ddegawdau hir. Mewn mannau - megis Madagascar a Bryniau Casia, mae’r llewyrch ysbrydol wedi parhau hyd ein dydd ni. Mewn eraill - megis ymhlith y Tsalagi ac yn Llydaw - bu blodeuo ac yna edwino. Mae’r Beibl yn y famiaith yn angenrheidiol ar gyfer ffrwyth hirdymor yn yr eglwys ond dyw e ddim yn ddigonol ar ei ben ei hun. Mae hanes ehangach yr eglwys yn dangos hynny droeon hefyd. Mae’r angen i fuddsoddi yn y pethau sylfaenol - y Beibl yn y famiaith - yn parhau hyd yn oed ar ôl y gwaith cychwynnol. Ym Madagascar, gogledd-ddwyrain India ac ynysoedd y Môr Tawel, mae gwaith cyfieithu yn mynd rhagddo hyd heddiw. A wnewch chi weddïo dros y gwaith, a buddsoddi ynddo? A wnaiff eich eglwys?

×

Never miss a story

Get Bible translation updates straight to your inbox

For more information on our privacy policy, see Policy