Darn ymddangosodd mewn rhifyn diweddar o’n cylchgrawn dwyieithog, Wycliffe News Cymru:

Aeth cenhadon efengylaidd o Gymru i bob cwr o’r byd o gyfnod y Diwygiad Methodistaidd (o gylch 1750) ymlaen. Un o nodweddio mwyaf trawiadol y corff hwn o genhadon Cymraeg yw eu gweithgarwch i gyfieithu’r Beibl i’r famiaith yn y llefydd yr aethant iddynt. Mae llawer o’r straeon hynny wedi diflannu o’n cydwybod ond fe ddefnyddiodd yr Arglwydd yr ymdrechion hyn i ddwyn ffrwyth mewn sawl man ar draws y byd. Dros y rhifynnau nesaf o Wycliffe News Cymru byddwn ni’n cyflwyno rhai o’r cenhadon a’r ymdrechion hyn, ac yn ceisio dysgu oddi wrthynt.

Y Beibl ym Malagaseg – un o’r cyntaf mewn iaith o Affrica

Yr Hanes

Yn Awst 1818 glaniodd David Jones a Thomas Bevan ar arfordir Madagascar, ar ddiwedd taith a oedd wedi dechrau flwyddyn ynghynt yng nghapel Neuadd-Lwyd, ger Aberaeron. Y cwestiwn a ofynnwyd iddynt ar y pryd oedd: ‘pa fodd yr ydych yn meddwl dwyn eich gwaith ymlaen ymhlith y Paganiaid?’ Eu hateb oedd: gweddïo am arweiniad; glynu at athrawiaethau’r ffydd a’r ysgrythurau; dysgu iaith y bobl a phregethu ynddi; cyfieithu’r Beibl i’r iaith honno a sefydlu ysgolion dyddiol. Gyda’r bwriadau hyn fe deithiodd y ddau i’r ynys.

Dros y blynyddoedd nesa buont yn weithgar iawn, gan bregethu’r efengyl ddwywaith pob Sul, sefydlu ysgolion dyddiol ac ysgolion Sul, milwrio i ddod â chaethwasiaeth i ben, sefydlu orgraff safonol i’r Falagaseg ac erbyn 1831 cyfieithu a chyhoeddi’r Testament Newydd yn yr iaith honno, a hefyd rhywfaint o’r Hen Destament. Blodeuodd y gwaith: erbyn 1828 roedd 37 o ysgolion yn weithredol, ac amcangyfrifir i hyd at 15,000 o blant yr ynys dderbyn addysg trwy’r ysgolion hyn. Roedd yr eglwys ym Madagascar yn tyfu ac aeddfedu, a’r newyddion da yn mynd ar led. Ond ym 1835 yn sgil newid gwleidyddol yn y wlad, cododd erledigaeth chwyrn yn erbyn y Cristnogion, a bu’n rhaid i natur y gwaith newid yn sylweddol.

Ffrwyth

Tai yng nghefn gwlad Madagascar heddiw

Ond roedd yr had wedi ei hau, ac eisoes yn dwyn ffrwyth. Roedd bellach eglwys frodorol ymhlith y Malagasy. Amcangyfrifir bod nifer y Cristnogion brodorol wedi tyfu i ryw 7,000 erbyn i’r frenhines elyniaethus farw ym 1861 – a hyn dim ond tri deg o flynyddoedd wedi i’r eglwys gyntaf gael ei sefydlu yn y wlad gan David Griffiths. Prawf o waith Duw yw’r ffaith bod yr eglwys wedi parhau a hyd yn oed wedi tyfu mewn nifer er gwaetha gwres yr erlid ac er gwaetha’r ffaith bod pob cenhadwr o dramor wedi ei ddiarddel o’r ynys.

Gwelwyd hefyd ddeffroadau ysbrydol – rhwng 1831 ac 1834, ac eto ym 1891-92. Rhoddai’r eglwys le canolog i Air Duw, ac o ganlyniad i bregethu ffyddlon a dewr a dyfalbarhad, gwelodd eglwysi’r brifddinas yn unig dros ddau gant o aelodau newydd yn ystod 1834. A pharhaodd hyn yn wir yn yr hir dymor hefyd; mae dros 11% o boblogaeth y wlad yn efengylaidd heddiw, a’r ganran hon yn dal i godi yn ôl ‘Operation World’.

Strategaeth

Felly beth oedd strategaeth y cenhadon hyn wrth iddynt ddod â’r efengyl mewn i gyd-destun cwbl newydd, a gweld y fath ffrwyth? Ac a oes yna agweddau o’r strategaeth hyn sy’n berthnasol i ni heddiw?

Un o’r pethau mwyaf trawiadol yw’r ffordd yr aeth y cenhadon ati i ffurfio perthynas adeiladol gyda’r llywodraeth o’r cychwyn cyntaf. Lles personol a lles y wlad oedd yn cyfrif i’r brenin, Radama, ond defnyddiodd David Griffiths hyn er mwyn ennill plwyf yr efengyl o fewn coridorau grym, ac agorodd hyn ddrysau i’r cenhadon fynd o gylch eu gwaith. Roedd yn ystyriaeth bwysig ganddynt ddangos i’r brenin bod yr efengyl o fudd i’w wlad.

Yn ail, eu diwydrwydd ynghylch gweithio gyda’r iaith frodorol. Dysgasant yr iaith, ond hefyd ymchwilio iddi, canolbwyntio ar ddatblygu orgraff ac yna ar addysgu pobl y wlad fel y medren nhw ddarllen eu hiaith hefyd. Trwy ganolbwyntio ar hyn, roeddent yn ennill ffafr y brenin ond hefyd yn agor ffordd i’r bobl allu darllen y Beibl, pan fyddai hwnnw’n barod.

Yn drydydd, roedd yn flaenoriaeth ganddynt i gyfieithu’r (holl!) Feibl. Y Beibl yw sylfaen pob gwaith Cristnogol, ac yn yr achosion hynny lle buodd eglwys ond nid Beibl yn yr iaith frodorol, mae’r eglwys honno unai wedi gwyro yn athrawiaethol, neu wedi crebachu neu wedi diflannu. Trwy gyfieithu’r Beibl ar fyrder, a chyhoeddi efengyl Luc mor gynnar a 1827, roedd y cenhadon yn sicrhau twf ysbrydol ymhlith y Cristnogion cynnar ym Madagascar, ac yn gosod yr eglwys ar sylfeini cadarn.

David Jones yn dysgu llythrennedd ym Madagascar

Yn bedwerydd, fe ffurfiodd y cenhadon gymdeithas efengylaidd frodorol ym 1825. Trwy sicrhau perchnogaeth leol ar y gwaith, roedd modd addasu allanolion i’r cyd-destun diwylliannol heb fod rhagfarn gorllewinol yn mynnu ar rai pethau a fyddai’n rhwystr.

Casgliad

Yr un yw’r rhain â’r technegau y mae Wycliffe a’n partneriaid byd-eang yn eu defnyddio heddiw. Mae cael y Beibl i iaith y bobl yn un peth, ond heb alluogi pobl i ddod i’r afael ag e, a’r neges y mae’n ei chynnwys, mae perygl iddo eistedd ar silffoedd. Rhaid buddsoddi mewn llythrennedd; mewn deunyddiau ac addysg ysgrythurol i helpu gweinidogion ac eraill wybod sut i ddefnyddio’r Beibl; yn y dechnoleg (gweisg yn y gorffennol, apiau ffonau symudol heddiw) i alluogi hynny. Rhaid ceisio perthynas dda gyda’r awdurdodau (fel gwnai yr apostol Paul), a rhaid meithrin perchnogaeth leol o’r cyfan.

Mae eich cefnogaeth chi - trwy weddi ac yn ariannol - yn ein galluogi ni i fynd ymlaen a’r gwaith hwn. Diolchwn i Dduw amdano!

×

Never miss a story

Get Bible translation updates straight to your inbox

For more information on our privacy policy, see Policy